Amdanon ni
Rydyn ni wedi ein lleoli ym Mro Morgannwg ac yn dod a dewis o ddiodydd di-alcohol i bawb. Iechyd da
Amdanon ni
Dirwest yw'r gair Cymraeg am "Temperance", atgof o'n cyn-neiniau syber a'r hen luniau sepia ohonynt yn eu gwisgoedd cymreig a hetiau du yn yfed te ac edrych yn swrth. Mae yna rai o hyd sy'n cofio'r Mudiad Dirwest a cherdded eu protest. Wrth gwrs mae nifer mwy ohonom yn cofio "Dwyfor" hen sir sydd bellach yn rhan o Wynedd, oedd yn parhau yn "Sych ar y Sul" trwy gyfraith tan 1996, cyfraith luniwyd yn yr oes Fictoria. Heddiw gallwch ddewis i yfed neu i ddewis diod di-alcohol neu gyfuniad o'r ddau. Mae DIRWEST yn cynnig y dewis hwn, dewis di-alcohol Cymreig llawn hwyl fel yr hwyl ar y bysiau a deithiau o Ddwyfor i'r siroedd cyfagos bob nos Sul. Mae'r blas yn dda, mae'n ddi-glwten, calori isel a figan hefyd.
GWYRDD - mae Dirwest yn ceisio ein gorau i fod yn ddi-blastig ac yn gwneud pob penderfyniad yn y modd mwyaf eco-gyfeillgar. Er engraifft mae ein Gwirod mewn potel fflint sy'n ysgafn ac wedi ei hailgylchu'n llwyr. Mae'r cwrw mewn caniau aliwminiwm sef yr opsiwn gorau i ailgylchu 100%. Rydym yn ceisio lleihau ar becynnu a defnyddio cardfwrdd a phapur yn unig. Mae'r holl gynnyrch wedi eu cynhyrchu yng Nghymru.
Cynnyrch Cymreig
Mae Cymru yn wlad llawn arloeswyr, gyda'n hiaith, hanes ac etifeddiaeth unigryw sydd wedi ein mowldio dros y canrifoedd, iaith sy'n parhau yn fodern a byw. EIn bwriad yw dod â'n hiaith i flaen ein cynnyrch, gan obeithio y gwneith y blas ddod â chi yn ôl atom dro ar ôl tro. Diod i ddathlu!
Casgliadau
-
Yma o Hyd IPA (Pecyn 12)
Pris arferol £28.00Pris arferolPris uned / fesul -
Pecyn Anrheg Gwydr Yma o Hyd IPA
Pris arferol £12.00Pris arferolPris uned / fesul -
Pecyn 24 Yma o Hyd IPA Crefft Gymreig Di-alcohol
Pris arferol £50.00Pris arferolPris uned / fesul -
Yma o Hyd IPA
Pris arferol £3.00Pris arferolPris uned / fesul